Os oes angen ichi gael eich gweld mewn Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu Uned Mân Anafiadau, bydd yr wybodaeth isod yn dangos ichi lle mae'r ysbytai agosaf atoch. Ar gyfer y rhan fwyaf o ysbytai Cymru, bydd yn nodi faint o amser yr ydych yn debygol o'i dreulio yn yr Adran/Uned. Mae gwybodaeth sylfaenol am rai ysbytai yn Lloegr wedi'i chynnwys ar gyfer cleifion sy'n byw mewn ardaloedd ar y ffin. O ran cleifion yn ardal Caerdydd a'r Fro, mae'r bwrdd iechyd bellach yn gweithredu system
Ffonio'n Gyntaf ac felly nid yw'r amseroedd aros ar gael. O ran cleifion yn ardal Powys, mae'r bwrdd iechyd bellach yn gweithredu system
Ffonio'n Gyntaf. Mae dewis y lle cywir yn bwysig er mwyn cael y driniaeth fwyaf addas a hynny yn amserol. Os nad ydych yn gwybod pa opsiwn i'w ddewis, defnyddiwch y
Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru ar-lein.